Caergybi: 01407 728603 // Caernarfon: 01286 532140 // Pwllheli: 01758 613177 // Porthmadog: 01766 514747

Cwnsela Cyflogaeth

Mae ein cefnogaeth gwnsela yn helpu ceiswyr gwaith i fynd i’r afael â rhwystrau iechyd meddwl i gyflogaeth. Gall therapïau siarad helpu pobl i ddatblygu strategaethau ymdopi, gwella hunan-barch a meithrin gwydnwch, gan eu gadael yn fwy abl i ymgysylltu â chymorth cyflogadwyedd a’u symud yn agosach at y farchnad lafur.

Mae cyflyrau iechyd cleientiaid wedi cynnwys pryder, iselder, PTSD, galar, pryder cymdeithasol a straen; nid oes angen diagnosis ffurfiol i gael mynediad at ein cymorth cwnsela. Yn dilyn asesiad cychwynnol gyda’n Cydlynydd Gwasanaethau Cwnsela, mae cleientiaid fel arfer yn derbyn rhwng chwech a deg sesiwn o gefnogaeth naill ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein.

Mae ein tîm cwnsela yn cynnwys cwnselwyr gwirfoddol a myfyrwyr cwnsela MSc trwy ein partneriaeth hirhoedlog â Phrifysgol Bangor. Mae defnyddio myfyrwyr a gwirfoddolwyr yn ein galluogi i gynnig cwnsela cyflogaeth am bris fforddiadwy, wrth gefnogi cwnselwyr newydd yn eu datblygiad gyrfa.

Mae ein cleientiaid yn rhoi adborth cadarnhaol yn gyson ynglŷn â sut mae ein cefnogaeth gwnsela wedi eu helpu i symud yn agosach at y farchnad lafur.

  • Dywedodd 84% fod eu gallu i weithio wedi gwella o ganlyniad i’r ymyrraeth
  • Dywedodd 60% o gleientiaid eu bod yn teimlo’n barod am gyflogaeth yn dilyn cymorth.
  • Dywedodd 84% fod eu hiechyd wedi gwella o ganlyniad i’r ymyrraeth

 

Rhoddodd cleientiaid sgôr gyffredinol o 4.48 allan o 5 i’w cefnogaeth therapi

“Fe helpodd fi’n fawr yn ôl i gyflogaeth ar ôl blynyddoedd o salwch meddwl.”

“Rydw i’n ôl ar y trywydd iawn ac yn gallu ymdopi.”

“Mwynheais yn fawr iawn, dysgais fecanweithiau ymdopi da.”